Cymru dwyieithog!


Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o ymgyrchu dros yr iaith, ac fel rhywun a oedd wedi gweithio am sawl flwyddyn ym maes hybu’r iaith Gymraeg, y nod oedd bob tro i godi statws y Gymraeg i’r un lefel a’r iaith Saesneg. Bob tro’r ddadl oedd bod gan y Gymraeg statws israddol i Saesneg, a bod ‘na ddim hawliau gan siaradwyr Cymraeg i ddewis byw eu bywydau yn eu mamiaith. Fy safiad i, a llawer eraill oedd y dylai’r ddwy iaith fod yn gyfartal, a’u bod ill ddwy yn rhan bwysig a chanolog i ddiwylliant Cymru.

Hyderaf i ddweud bod y safiad hwn dal yn ganolog i’r ffordd rwy’n gweld sefyllfa’r iaith Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o beth sy’n diffinio fi fel unigolyn, ond yn yr un modd mae’r iaith Saesneg hefyd yn fy niffinio fy mhersonoliaeth i. Cefais yr un ddewis i fod yn siaradwr Cymraeg a oedd gen i i fod yn siaradwr Saesneg, dyna beth yw bod yn ddwyieithog yn wirioneddol yn golygu. Ond perodd erthygl gan Daran Hill i mi feddwl am y sefyllfa.

Fel gwnes i, fe ymunodd Daran â grŵp dros bleidlais ‘Ie’ ar Facebook. Roedd y grŵp yn ymweld fel petai yn cael ei harwain gan y werin (be ydi grass roots yng Nghymraeg?). Felly roedd hwn yn ffordd i mi gymryd rhan yn ymgyrch dros ennill y refferendwm. Ond derbyniais i neges o’r grŵp yma (neu o’r crewyr) yn gofyn i mi ymuno a grŵp arall. Y grŵp arall yma oedd grŵp a oedd yn galw ar ddiddymu enwau Saesneg i bentrefi, drefi a dinasoedd Cymru. Yr hyn oedd yn fy mhoeni i a dal yn fy mhoeni i yw pa mor barod oedd lawer i ymuno â’r grŵp yma. Dyma grŵp a oedd yn galw am ddiddymu enwau a oedd cymaint yn rhan o’n diwylliant ni heddiw a oedd yr enwau Cymraeg.

Mae’r hyn sy’n cael ei grybwyll gan y grŵp yma yn rhywbeth hollol wahanol i beth mae’r mudiad iaith wedi bod yn ymgyrchu drosodd. Lle oedd ymgyrchoedd fy ieuenctid i yn galw am rywbeth positif – Cydraddoldeb, y mae’r grŵp yma yn galw am rywbeth negyddol sydd wedi ei selio ar anghydraddoldeb, a’r cysyniad bod un iaith yn uwch ac yn fwy dilys na’r llall.

Mae defnyddio un grŵp ar Facebook i hyrwyddo grŵp hollol gwahanol yn gwanhâi neges y grŵp gyntaf, ac o ganlyniad yn arfogi’r gwrthwynebiad i ymgyrch ‘ie’ yn y refferendwm.

Yn wahanol i Darren Hill mi fydda i yn parhau i fod yn aelod o’r grŵp ‘ie’ ar Facebook gan ei bod wedi tynnu lawer o bobl (grass roots) a phobl ifanc, ond mae fy nisgwyliadau i o’r grŵp wedi cwympo yn sylweddol.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s